Go brin fod yr un o gyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru wedi ennyn cymaint o ymateb â'r rheoliadau newydd ynghylch seiclo.

Efallai nad yw hynny'n syndod. Am ryw reswm mae hawliau ac ymddygiad seiclwyr yn corddi lot o bobl. Dydw i ddim cweit yn deall pam. Oes, mae 'na ambell i seiclwr haerllug a hunandybus ond mae hynny'n wir am fodurwyr a cherddwyr hefyd. Ac oce, dyw Lycra ddim yn edrych yn grêt ar bawb ond ydy hynny'n rheswm i ddirmygu dosbarth cyfan o bobl?

Y cyfan wnaeth Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd oedd datgan rhywbeth a ddylai fod yn amlwg i bawb. Os ydy taith yn ddiangen mewn car, mae'r un daith yn ddiangen ar gefn beic.

Yr unig beth y gallwch chi wneud ar feic nad yw'n bosib gwneud mewn car yw ymarfer eich corff a does dim angen gwneud cylchdaith o Eryri neu reidio o Gaerdydd i Borthcawl ac yn ôl er mwyn gwneud hynny. Gellir cael yr un ymarfer trwy wneud cyfres o gylchdeithiau yn agos at eich cartref.

Os do fe. Rwy'n eich cynghori i beidio mynd o flaen eich gofid trwy chwilio am yr ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe dawelodd pethau rhywfaint ar ôl iddi ddod yn amlwg bod 'aros yn agos i gartref' yn golygu 'hyd at 10 milltir o'ch cartref' ond roedd 'na waed ar furiau Twitter a Facebook erbyn i hynny ddigwydd.

Pam felly yr oedd Llywodraeth Cymru yn teimlo'r angen i wneud y rheolau'n fwy eglur pan nad oedd llywodraethau eraill y DU yn dewis gwneud?

Ceir yr ateb trwy edrych ar galendr ac ar fap.

Mae 'na ddwy ŵyl banc ym Mis Mai ac, fel yn y cyfnod cyn y Pasg, mae'r llywodraeth am sicrhau nad oes 'na ddylifiad o bobl i mewn i gefn gwlad Cymru dros y ddau benwythnos hir.

Mae 'na oddeutu pedair miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac oddeutu dwy filiwn mor agos â hynny at Eryri. Mae taith 50 milltir yn hawdd o fewn cyrraedd seiclwyr ffit profiadol ac roedd 'na beryg amlwg y byddant wedi heidio i'r parciau pe bawn nhw o'r farn eu bod yn rhydd i wneud hynny.

Meddyliwch yn ôl i ddechrau'r busnes yma ac efallai y byddwch yn cofio y bu'n rhaid i'r heddlu ymyrryd i ddanfon criw o feicwyr modur oedd wedi ymgasglu yn Llanymddyfri yn ôl i'w cartrefi.

Doedd y bois lledr ddim yn credu bod y rheolau yn cyfri' yn eu hachos nhw nes i rywun ddweud wrthyn nhw. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn credu bod meddylfryd digon tebyg wedi gwreiddio ym meddyliau rhai seiclwyr hefyd.

Dydw i ddim yn gwybod pa dystiolaeth sy 'na o hynny ond mae 'na beryglon amlwg mewn cael grŵp o bobl sy' ddim yn torri'r rheolau yn fwriadol ond sy'n gwrthod deall bod y rheolau yn berthnasol iddyn nhw a'u peirannau.